
Mae’r pecyn yn cynnwys dros 7 awr o fideo, llyfrau, taflenni, cardiau trafod a gêm rhyngweithiol, sy’n adeiladu’n naturiol ar batrymau iaith y Cyfnod Sylfaen ac yn cyflwyno sgiliau iaith newydd a ddefnyddiol.

Mae adnoddau'n cynnwys ffeil-o-ffeithiau am y cymeriadau Crad, Ffion a Sgrin, clipiau o’r DVD, ffeiliau sain a gemau rhyngweithiol. Datblygwyd yr adnoddau i annog dysgu ac addysgu Cymraeg yng nghyd-destun pynciau eraill y cwricwlwm.