Neidio i'r prif gynnwys Neidio i'r troedyn

Croeso i ‘Y Pod-antur Cymraeg’!

Byd o adnoddau i gefnogi ymgysylltiad, dysgu a mwynhad y Gymraeg ar gyfer eich plentyn. Mae’r holl adnoddau wedi’u datblygu gyda chymorth ac arbenigedd athrawon ac arbenigwyr cwricwlwm a’u mapio i Gwricwlwm i Gymru.

Mae adnodd 'Y Pod-antur Cymraeg' wedi’i gynllunio ar gyfer dysgu Cymraeg Ail Iaith mewn ysgolion uwchradd. Y nod yw adeiladu ar batrymau iaith a geirfa sydd wedi’u cyflwyno yn ystod y Cyfnod Sylfaen, eu datblygu nhw ymhellach ac yna’u trosglwyddo nhw i gyd-destunau gwahanol, gan alluogi’r disgyblion i ddeall Cymraeg llafar ac ysgrifenedig, i siarad ac i ysgrifennu mewn gwahanol sefyllfaoedd ac at wahanol bwrpasau.

child on laptop

Adnoddau dysgu ac addysgu

Mae cyfres ‘Y Pod-antur Cymraeg’ yn cynnwys pedwar pecyn amlgyfrwng cynhwysfawr (anhawster cynyddol), pedwar set o daflenni gwaith ychwanegol, a gêm ryngweithiol i hwyluso dysgu plant.

  • 4 Pecyn
  • 120 Fideo
  • 60 Llyfr
  • 1 Gêm ryngweithiol
Rhiant a'i blentyn

Cwricwlwm i Gymru mewn golwg

Mae Cwricwlwm i Gymru yn nodi’r canlynol: 

  • Mae ieithoedd yn ein cysylltu â'n gilydd 
  • Mae deall ieithoedd yn allweddol i ddeall y byd o'n hamgylch
  • Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu
  • Mae llenyddiaeth yn tanio’r dychymyg ac yn ysbrydoli creadigrwydd 

Nod ‘Y Pod-antur Cymraeg’, felly, yw rhoi hyder i ddysgwyr ac ymarferwyr i ddefnyddio’r Gymraeg a rhoi’r gallu iddynt gyfathrebu yn Gymraeg bob dydd. Mae’n darparu cyfleoedd i blant 7–11 oed ddefnyddio’r Gymraeg ar draws y chwe ‘Maes Dysgu a Phrofiad’ o fewn y cwricwlwm – Celfyddydau Mynegiannol, Iechyd a Lles, y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Mathemateg a Rhifedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg – ac yn annog defnydd o’r Gymraeg mewn gweithgareddau trawsgwricwlaidd bob dydd. 

Adnoddau i'w prynu

Yn ogystal â'r adnoddau digidol ar ein gwefan, yma gallwch chi brynu pypedau, copïau caled o'r llyfrau, ac adnoddau dysgu ac addysgu eraill i'w defnyddio yn yr ysgol a gartref.

Picture of Y Pod-antur Cymraeg Resources
Neidio i'r dewislen Neidio i'r prif gynnwys