Neidio i'r prif gynnwys Neidio i'r troedyn

Cefnogi Rhieni ac Ymarferwyr

Mae’r wefan hon wedi’i dylunio i’w defnyddio yn yr ysgol a gartref, gydag adnoddau hawdd eu canfod ar gyfer gweithwyr addysgu proffesiynol, yn ogystal â rhieni a gofalwyr. Yma, gallwch ddod o hyd i syniadau, canllawiau ac adnoddau i'ch cefnogi chi a'ch plentyn. Gallwch ddefnyddio’r hidlenni ar ochr chwith y llyfrgell ‘Adnoddau’ i ddod o hyd i batrwm iaith penodol, maes dysgu a phrofiad penodol, neu i ddod o hyd i hoff fideo, llyfr neu daflen waith! 

parent and child learning

Canllawiau i Rieni a Gofalwyr

tick

Mae cyfres ‘Y Pod-antur Cymraeg’ yn rhoi cyfle i ddysgwyr wylio a gwrando ar fideos hwyliog a deniadol, a fydd yn eu helpu i wella a datblygu eu sgiliau a’u dealltwriaeth o’r Gymraeg. Bydd y patrymau iaith a welir yn y fideos hefyd yn cyflwyno cyfleoedd i chi ddefnyddio’r Gymraeg gyda’ch plentyn yn ystod gweithgareddau dyddiol o gwmpas y cartref.

tick

Nod y llyfrau darllen yw annog plant i ddarllen Cymraeg yn annibynnol. Mae'r llyfrau'n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau a themâu ac wedi’u dylunio i wneud darllen Cymraeg yn hwyl! Yng nghefn pob llyfr mae rhestr o’r eirfa yn y llyfr a gweithgareddau a chwestiynau awgrymedig i’w gofyn i’ch plentyn am y stori (gan gynnwys cyfieithiadau Saesneg).

tick

Er mwyn cefnogi rhieni a gofalwyr ail iaith gydag ynganiad cywir, mae nodwedd ‘darllen ar goedd’ ddefnyddiol ar yr e-Lyfrau gyda naratif sain o’r geiriau a’r ymadroddion yn y llyfrau. Bydd hyn hefyd yn helpu rhieni a gofalwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg eu hunain ar yr un pryd! 

tick

Bydd ‘Y Pod-antur Cymraeg’ yn galluogi eich plentyn i ddefnyddio patrymau a geirfa Gymraeg gyfarwydd yn hyderus ym mhob sefyllfa – dan do ac yn yr awyr agored, yn yr ysgol a gartref.

Canllawiau i Ymarferwyr

tick

Nod ‘Y Pod-antur Cymraeg’ yw rhoi hyder i ddysgwyr ac ymarferwyr ddefnyddio’r Gymraeg a rhoi’r gallu iddynt gyfathrebu yn Gymraeg bob dydd. Mae’r gweithgareddau posibl yn y canllawiau hyn yn awgrymu sut gallai’r darparwyr ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob maes dysgu a phrofiad.

tick

Cynulleidfa darged ‘Y Pod-antur Cymraeg’ yw ysgolion uwchradd ledled Cymru ac mae’n ymdrin ag amrywiaeth o sefyllfaoedd a gweithgareddau cysylltiedig a fydd yn ysbrydoli plant 7-11 oed ac yn eu hannog i ddefnyddio’r Gymraeg mewn gweithgareddau bob dydd.

tick

Gellir addasu’r adnoddau i’ch anghenion chi eich hun. Dylai ymarferwyr fanteisio ar bob cyfle i ddefnyddio’r patrymau a’r eirfa ym mhob sefyllfa, dan do ac yn yr awyr agored. 

tick

Mae modd defnyddio 'Y Pod-antur Cymraeg' ochr yn ochr ag adnoddau a chynnwys Cymraeg eraill a’i ddefnyddio hefyd o fewn rhestrau chwarae ar Hwb i gynorthwyo gyda chynllunio eich profiadau addysgu a dysgu.

Neidio i'r dewislen Neidio i'r prif gynnwys