Neidio i'r prif gynnwys Neidio i'r troedyn

Telerau ac Amodau

Gwefan ac adnodd brandiedig a gynhyrchwyd gan Tinint yw’r Pod-Antur. Mae Tinint yn rhan o grŵp Tinopolis.

Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’r telerau ac amodau canlynol a’r gyfraith berthnasol. Os nad ydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y telerau ac amodau hyn, peidiwch â defnyddio’r wefan hon.

Darperir y wybodaeth a’r deunyddiau ar y wefan hon yn rhad ac am ddim (oni nodir fel arall) ac at ddibenion enghreifftiol yn unig. Nid yw’r cynnwys yn sefydlu unrhyw berthynas fusnes, perthynas gontractiol na pherthynas gyflogaeth â Tinopolis.

Mae’r wybodaeth, y cynnwys, y testun a’r delweddau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gôd HTML, sgriptiau a ffotograffiaeth, yn eiddo i Tinopolis (ac eithrio lle nodir yn wahanol) ac ni cheir eu copïo, eu hatgynhyrchu, eu hailgyhoeddi, eu postio, eu trosglwyddo na’u dosbarthu mewn unrhyw ffordd heb ein caniatâd ysgrifenedig penodol ymlaen llaw.

Mae pob nod masnach a ddefnyddir neu y cyfeirir atynt ar y wefan hon yn eiddo i Tinopolis neu i’w perchnogion priodol.

Gall dolenni ar y wefan hon arwain at wasanaethau neu wefannau nad ydynt yn cael eu gweithredu gan Tinopolis nac unrhyw gwmni arall o fewn grŵp Tinopolis. Ni roddir unrhyw farn na gwarant mewn perthynas â’r gwasanaethau neu’r gwefannau hynny ac nid yw Tinopolis yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt. Nid yw dolen i wefan neu wasanaeth arall yn gyfystyr â chymeradwyaeth o’r wefan neu’r gwasanaeth hwnnw. Eich cyfrifoldeb chi yw unrhyw ddefnydd a wnewch o’r wybodaeth a ddarperir ar y wefan hon, neu unrhyw wybodaeth ar wefan neu wasanaeth sy’n gysylltiedig â’r wefan hon drwy ddolen gyswllt.

Darperir y wefan hon "fel y mae" ac nid yw Tinopolis yn cynnig gwarant o unrhyw fath, boed yn ddiamwys neu’n oblygedig, gan gynnwys gwarantau marchnadwyedd ac addasrwydd at ddiben penodol. Ni fydd Tinopolis, nac unrhyw un o'i weithwyr na'i gontractwyr, yn atebol o dan unrhyw amgylchiadau am unrhyw ddifrod mewn cysylltiad â'r wybodaeth neu'r deunyddiau a ddarperir ar y wefan hon, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ddifrod gwirioneddol, canlyniadol, uniongyrchol, enghreifftiol, damweiniol, anuniongyrchol, cosbol neu arbennig.

Neidio i'r dewislen Neidio i'r prif gynnwys